TGAU Bioleg
Arolwg
Mae’r cwrs (CBAC TGAU Bioleg) yn cynnwys tair uned; mae dwy ohonynt yn edrych ar bwnc bioleg gwahanol ac mae’r drydedd uned yn profi sgiliau gwyddonol.
Asesir y cwrs drwy ddau arholiad – un ar gyfer uned 1 ac un ar gyfer uned 2 (mae pob arholiad yn cyfrif am 45% o farciau’r cwrs sy’n gwneud cyfanswm o 90%). Mae ‘asesiadau ymarferol’ yn cael eu cwblhau yn y dosbarth (10% o farciau’r cwrs).
Mae’r cwrs yn rhedeg am 2.5 awr yr wythnos am 30 wythnos.
Bydd rhaid i fyfyrwyr gwbhlau nifer sylweddol o oriau astudio yn ystod eu hamser eu hunain.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen cymwysterau. Bydd rhaid i fyfyrwyr fabwysiadu ymagwedd resymegol a mathemategol at eu hastudiaethau.
Uned 1: CELLOEDD, SYSTEMAU ORGANAU AC ECOSYSTEMAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
- Y system resbiradol mewn bodau dynol
- Y system dreulio mewn bodau dynol
- Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
- Planhigion a ffotosynthesis
- Ecosystemau, cylchredau maetholion ac effaith dyn ar yr amgylchedd
Uned 2: AMRYWIAD, HOMEOSTASIS A MICRO-ORGANEBAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Dosbarthiad a bioamrywiaeth
- Cellraniad a chelloedd bonyn
- DNA ac etifeddiad
- Amrywiad ac esblygiad
- Ymateb a rheoli
- Arennau a homeostasis
- Micro-organebau a chlefydau
- Clefydau, amddiffyn a thriniaeth
Uned 3: ASESIAD YMARFEROL 10% o’r cymhwyster
- Adran A – Cael canlyniadau
- Adran B – Dadansoddi a gwerthuso canlyniadau
Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar wefan CBAC TGAU Gwyddoniaeth.
Mae TGAU Bioleg yn cynnig cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon. Byddai dilyniant i gyrsiau Gwyddoniaeth Lefel 3 megis Safon Uwch a BTEC yn bosibl.
Cyrsiau tebyg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..