Skip to main content

Cyfrifeg ACCA APM – Rheoli Perfformiad Uwch

Rhan-amser
Lefel 6
ACCA
Sketty Hall
18 wythnos

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

04/07/23

 

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Rheoli Perfformiad Uwch (APM)

Byddwch yn gallu:

  • Defnyddio modelau cynllunio a rheoli strategol i gynllunio a monitro perfformiad sefydliadol
  • Asesu ac adnabod y dylanwadau allanol allweddol ar berfformiad sefydliadol
  • Adnabod a gwerthuso nodweddion dylunio systemau gwybodaeth a monitro rheoli perfformiad effeithiol
  • Cymhwyso technegau strategol priodol i fesur perfformiad a gwerthuso a gwella perfformiad sefydliadol
  • Cynghori cleientiaid ac uwch reolwyr ar werthuso perfformiad busnes strategol ac ar adnabod perygl o fethiant corfforaethol.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at gyrsiau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol eraill.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk