Skip to main content

Cyfrifeg ACCA FM – Rheolaeth Ariannol

Rhan-amser
Lefel 5/6
ACCA
Sketty Hall
15 wythnos

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

Uned
FM – Rheolaeth Ariannol (FM). Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a ddisgwylir gan reolwr cyllid, mewn perthynas â phenderfyniadau buddsoddi, cyllido a pholisi difidend.

04/07/23

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau AAT Cyfrifeg Broffesiynol Lefel 4 neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - BT, MA ac FA. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, PM, FR, TX, AA, SBL ac SBR, a phynciau dewisol. Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. E-bostiwch Emma Thomas - Emma.Thomas@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk