Skip to main content

Cyfrifeg ACCA AA – Archwilio a Sicrwydd

Rhan-amser
Lefel 5/6
ACCA
Sketty Hall
30 weeks

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

Uned
Archwilio a Sicrwydd (AA). Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses o gynnal ymgysylltiad sicrwydd a’i gymhwyso yng nghyd-destun y fframwaith rheoleiddio proffesiynol.

04/07/23

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau AAT Lefel 4 Cyfrifeg Broffesiynol neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - BT, MA ac FA

Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, FR, TX, FR, FM, SBL a SBR, a phynciau dewisol.

Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. E-bostiwch Emma Thomas - Emma.Thomas@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk