Skip to main content

Cyfrifeg ACCA PM – Rheolaeth Perfformiad

Rhan-amser
Lefel 5
ACCA
Sketty Hall
17 wythnos

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

04/07/23

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau AAT Cyfrifeg Broffesiynol Lefel 4 neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - BT, MA ac FA. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

PM – Rheolaeth Perfformiad. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau o ran cymhwyso technegau cyfrifeg rheolaeth i wybodaeth feintiol ac ansoddol ar gyfer cynllunio, gwneud penderfyniadau, gwerthuso perfformiad a rheolaeth.

Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, FR, TX, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol.

Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. 

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk