Skip to main content

EAL Diploma Estynedig mewn Technolegau Peirianneg (Dwy Flynedd)

Prentisiaeth
Lefel 3
EAL
Tycoch
Two years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwrdiad yr hyfforddiant hwn i ddechreuwyr yn y sector peirianneg yw rhoi gwybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol sydd eu hangen i ateb anghenion amrywiaeth fodern o ddiwydiannau peirianneg.

Mae’r cwrs hwn yn darparu’r dystysgrif drydanol ar gyfer y fframwaith prentisiaeth ond gall gael ei astudio fel cymhwyster ar ei ben ei hun i’r rhai sydd am ennill cymhwyster Lefel 3 ond nad ydynt yn gallu ymrwymo i gwrs amser llawn.

Diweddarwyd Ebrill 2017

Gwybodaeth allweddol

Gellir adolygu hwn ar sail un i un, yn dibynnu ar brofiad diwydiannol y dysgwr.

O 14 Hydref 2016, nid oes rhai i ddysgwyr ddilyn cymhwyster Sgiliau Hanfodol os ydynt wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir fel dewis arall i Sgiliau Hanfodol, fel y manylir o dan y fframwaith prentisiaeth. Fodd bynnag, os yw asesiad WEST y dysgwr yn nodi bod gan y dysgwr ddiffygion sgiliau hanfodol a fyddai’n atal cynnydd trwy’r fframwaith, bydd angen rhoi sylw i hyn.

Wrth ddilyn cymhwyster dwy flynedd EAL Diploma Estynedig mewn Technolegau Peirianneg, bydd y myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o unedau fydd yn rhoi cyfle iddynt ganolbwyntio ar yr yrfa o’u dewis neu faes diddordeb a symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.

Mae’r unedau’n cynnwys Mathemateg Peirianneg, Egwyddorion Mecanyddol, Egwyddorion Trydanol, Gwaith Cynnal a Chadw Mecanyddol a Drafftio gyda Chymorth Cyfrifiadur.

Nod y cwrs yw darparu fframwaith i’r myfyrwyr ar gyfer y rhaglen brentisiaeth, gan roi cyfle iddynt symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch e.e. HNC Peirianneg Drydanol / HNC Peirianneg Fecanyddol / Prentisiaeth Lefel Uwch.