Skip to main content

Mynediad i Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd (dosbarth nos) Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
34 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Access

Mae’r cwrs hwn yn rhedeg dros ddwy noson yr wythnos (nos Fawrth a nos Iau ar hyn o bryd). Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy’r ddolen hon

Mae’r Coleg yn ystyried y cwrs hwn yn un amser llawn ac felly does dim ffioedd heblaw am y ffi weinyddol safonol o £40.

***

Mae’r cwrs Mynediad i Nyrsio a Lles Cymdeithasol / Gwaith Cymdeithasol yn rhaglen lwyddiannus sy’n paratoi myfyrwyr hŷn neu’r rhai sydd am newid gyrfa ar gyfer byd gwaith neu addysg uwch (galwedigaethol neu academaidd).

Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr trwy broses geisiadau UCAS ar gyfer mynediad i sefydliadau addysg uwch ledled y DU a Gogledd Iwerddon.

Mae’r unedau hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer addysg uwch

  • Sgiliau astudio mynediad hanfodol
  • Cyfathrebu
  • Rhifedd ar gyfer iechyd 1 a 2
  • Anatomeg a ffisioleg
  • Cymdeithaseg a seicoleg
  • Polisi cymdeithasol
  • Y gyfraith a deddfwriaeth / gofal iechyd
  • Prosiect ymchwil
  • Cyflwyniad llafar
  • Myfyrio

Gwybodaeth allweddol

Oherwydd gofynion y rhaglen Lefel 3 hon a’r angen i gyflawni, mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen Cyn-fynediad yn llwyddiannus sydd ar gael o fis Ionawr tan fis Mai yn y flwyddyn academaidd, ond os nad yw hyn yn bosibl gellir gwneud trefniadau ar gyfer asesiad yn y dosbarth er mwyn rhoi modd i’r myfyriwr gael lle.  

Bydd rhaid i fyfyrwyr ddangos mewn cyfweliad ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl, agwedd gadarnhaol, yr angen i wneud yn dda ac ymrwymiad a brwdfrydedd dros astudio. Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, ac yn llawn cymhelliant.

Dylai myfyrwyr fod yn ymgeiswyr aeddfed gyda thystiolaeth glir o brofiad bywyd.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio arholiadau, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, adroddiadau ac mewn asesiadau wedi'u hamseru yn y dosbarth. Disgwylir i fyfyrwyr gael lleoliadau gwaith, tua 250 awr ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud cais am waith cymdeithasol, a thua 30 awr ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud cais am bob maes nyrsio/radiograffeg/ffisiotherapi/awdioleg/therapi lleferydd ac ati. Addysgir y cwrs gan ddefnyddio darlithoedd, siaradwyr gwadd, arddangosiadau/arsylwadau clinigol ynghyd â sesiynau holi ac ateb anffurfiol i gynorthwyo myfyrwyr â’u cynnydd. Mae’r cwrs rhan-amser yn cynnwys wyth awr astudio yr wythnos dros ddwy noson, pedair awr y noson a rhoddir hanner awr bob noson i amser tiwtorial i helpu dysgwyr gyda cheisiadau UCAS, technegau cyfweld a gofal bugeiliol.

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’r brifysgol o’r cwrs hwn. Gallai’r rhai sydd â diddordeb mewn iechyd astudio: nyrsio oedolion, nyrsio pediatreg, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio anableddau dysgu, bydwreigiaeth, awdioleg, radiograffeg, gwaith parafeddygol, therapi lleferydd, podiatreg ac ati. Gallai’r rhai sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol astudio: gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid, troseddeg, polisi cymdeithasol, astudiaethau cymunedol, seicoleg, gwyddorau cymdeithasol, ODP, ffisioleg glinigol, ac ati. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith o’r rhaglen hon, er enghraifft gweithiwr cymorth gofal iechyd cynorthwyol, gwaith cymdeithasol, gweithiwr ieuenctid ac ati.

Os nad ydynt yn cael eu cyflogi yn y maes iechyd ar hyn o bryd disgwylir i fyfyrwyr ennill profiad gwaith sy’n addas i’r llwybr dilyniant o’u dewis. Rhoddir cyfle hefyd i fyfyrwyr ymweld â sefydliadau AU lleol ledled gorllewin Cymru i gwrdd â’r timau derbyn ac mae hyn yn golygu cost fach tuag at deithio.