Skip to main content

Mynediad i’r Gyfraith

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
34 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Access

Bwriedir y rhaglen Fynediad sefydledig hon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i’r rhai sy’n dychwelyd i addysg ar gyfer dilyniant i addysg uwch neu gyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig. Mae’r rhaglen Fynediad hon yn cael ei chydnabod yn eang gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch ac mae’n darparu sylfaen ar gyfer llwybrau yn y gyfraith, troseddeg a phynciau cysylltiedig eraill.

Mae unedau pwnc yn cynnwys:

  • Prosiect ymchwilio
  • Natur y gyfraith
  • Ffynonellau cyfraith
  • Cyfraith trosedd
  • Llysoedd barn
  • Cyfraith teulu
  • Dull o ymchwilio seicolegol
  • Seicoleg troseddu
  • Safbwynt cymdeithasegol
  • Cymdeithaseg trosedd a gwyriad

Mae unedau sgiliau gorfodol yn cynnwys:
Sgiliau cyfathrebu ar gyfer Mynediad i’r Diploma AU; Cynllunio astudio a rheoli amser; Cyflawni cyflwyniadau llafar; Cymhwyso mathemateg.

Gwybodaeth allweddol

Mae ymgeiswyr yn debygol o fod yn dychwelyd i ddysgu a gallant astudio rhaglenni Mynediad o amrywiaeth mawr o gefndiroedd. Yn ddelfrydol, bydd angen cymhwyster Lefel 2 mewn llythrennedd ac nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r gyfraith.

Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ac asesiad i bennu addasrwydd i ofynion y rhaglen sy’n ystyried (i) nodau ac amcanion (ii) profiad bywyd (iii) profiad addysgol. Caiff ymgeiswyr eu cynghori os bydd llwybrau Lefel 3 eraill yn fwy priodol i’w nodau.

Ar y dechrau efallai y bydd ymgeiswyr yn cael eu cynghori i ystyried ein rhaglen Lefel 2 Cyn-fynediad i’w paratoi a phennu eu haddasrwydd i astudio’r llwybr Lefel 3 hwn.

Asesir y Diploma Mynediad 60 credyd hwn yn barhaus trwy gwblhau cyfuniad o unedau pwnc ac unedau sgiliau.

Bydd dulliau asesu’n cynnwys amrywiaeth o waith prosiect ac aseiniadau, traethodau, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a phrofion. Bydd rhaid i chi gynnal eich ffeil cwrs i’r lefel ofynnol ar gyfer corff dyfarnu Agored a bwriad POB asesiad yw paratoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch neu gyflogaeth.

Mae’r cwrs yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad i’r amrywiol unedau a asesir yn barhaus er mwyn eu cwblhau’n llwyddiannus.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais i addysg uwch am amrywiaeth mawr o lwybrau megis y gyfraith neu droseddeg.

Neu gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder Troseddol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu gwerslyfrau ac efallai y bydd gwibdeithiau y bydd angen i fyfyrwyr gyfrannu tuag atynt.