Skip to main content

Ymarferwyr Cymorth Dysgu

Prentisiaeth
Lefel 3
Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

O 14 Hydref 2016, nid yw’n ofynnol i ddysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster a gydnabyddir fel dewis amgen i Sgiliau Hanfodol, fel y nodir yn y fframwaith prentisiaeth, ymgymryd â chymhwyster Sgiliau Hanfodol. Fodd bynnag, os bydd asesiad WEST dysgwr yn nodi bod gan y dysgwr ddiffygion sgiliau hanfodol a fyddai’n atal cynnydd drwy’r fframwaith, mae angen mynd i’r afael â hyn.

Mae’r brentisiaeth hon yn berthnasol i ymarferwyr cymorth dysgu sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg ôl-orfodol ac sy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau dysgu, gan gynnwys rolau cymorth dysgu cyffredinol ac arbenigol.

Bydd yn cefnogi proffesiynoldeb y gweithlu cymorth dysgu ac yn galluogi cydnabyddiaeth ehangach o’r rôl werthfawr y mae ymarferwyr cymorth dysgu yn ei chwarae i gefnogi’r ystod amrywiol o ofynion dysgwyr mewn cyd-destunau addysg bellach, sgiliau a dysgu gydol oes.

Mae pob uned yn cynnwys credydau - ar Lefel 3 mae angen 18 credyd ar fyfyrwyr a byddant yn ennill y rhain trwy bedair uned orfodol sy'n cynnwys:

• Paratoi i gefnogi dysgu
• Dysgu mewn cyd-destunau dysgu gydol oes
• Egwyddorion cymorth dysgu
• Cefnogi dysgu

Rhaid dewis 12 credyd pellach o 11 uned ddewisol sy’n cynnwys:

• Gwirio sgiliau a chyfeirio ar gyfer anghenion Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol
• Dulliau sefydliadol o ddiwallu anghenion dysgu Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol
• Anghenion Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith
• Cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Ymchwiliad seiliedig ar ymarfer
• Cefnogi dysgwyr mewn maes arbenigol
• Paratoi ar gyfer rôl mentora
• Deall a rheoli ymddygiadau mewn amgylchedd dysgu
• Dulliau cynhwysol o ddarparu gwybodaeth.

Byddwch hefyd yn astudio sgiliau hanfodol sy’n cynnwys 18 credyd gan gynnwys:

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei gynnig yn rhan-amser, cysylltwch â Katie Gough am ragor o fanylion.

Diweddarwyd Ebrill 2017

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn ymarfer mewn rôl cymorth dysgu. Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd â phrawf sgrinio fel rhan o'r broses gyfweld i wirio bod eu sgiliau ar lefel addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector hwn. Bydd angen i ddysgwyr fod â gwir ddiddordeb mewn gweithio yn y sector a dylent ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd. Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, yn llawn cymhelliant ac yn hunanddibynnol. Dylai myfyrwyr fod rhwng 19 a 24 oed.

Bydd dysgwyr yn mynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos (dydd Mawrth). Asesir aseiniadau gwybodaeth yn fewnol. Asesir cymhwysedd galwedigaethol yn y lleoliad / gweithle.

Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys: Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygiad Gradd Sylfaen mewn Gofal a Chymorth Paratoi i Addysgu Tystysgrif Addysg TAR Asesu cymwysterau.