Skip to main content

NVQ Diploma mewn Gorffennu Addurniadol – Peintio ac Addurno

Prentisiaeth
Lefel 3
Diploma
Llys Jiwbilî
12-24 months
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bydd y cwrs blwyddyn/dwy flynedd hwn yn ddelfrydol i’r rhai sy’n paratoi arwynebau ac yn defnyddio brws i beintio arwynebau cymhleth neu hongian gorchuddion wal.

Bydd yn rhoi cyfle i chi wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth mewn amrywiaeth o dechnegau gorffennu gan gynnwys gosod cilfwâu a mowldinau addurniadol, cotio gan ddefnyddio dulliau chwistrellu, stensilio, graenio, gwead crib, marmori a defnyddio deilen fetel.

Byddwch hefyd yn ennill tystysgrifau Sgiliau Hanfodol.

Diweddarwyd Tachwedd 2019

Gwybodaeth allweddol

Rhaid eich bod wedi cwblhau Lefel 2 mewn crefft berthynol.

Mae unedau gorfodol/dewisol yn cynnwys:

  • Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle*
  • Gosod a datgymalu offer mynediad/llwyfannau gweithio*
  • Cadarnhau’r dull gwaith galwedigaethol
  • Cadarnhau gweithgareddau gwaith ac adnoddau ar gyfer man gwaith galwedigaethol
  • Taenu systemau paent ar arwynebau cymhleth gan ddefnyddio brws
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith galwedigaethol da
  • Paratoi arwynebau ar gyfer peintio/addurno*
  • Hongian gorchuddion papur wal safonol
  • Hongian finylau lled eang
  • Cynhyrchu a defnyddio dyluniadau stensil cymhleth
  • Cotio gan ddefnyddio’r dull chwistrellu di-aer
  • Cotio gan ddefnyddio’r dull chwistrellu aer
  • Hongian gorchuddion wal ar arwynebau cymhleth
  • Cynhyrchu gorffeniadau gwead crib
  • Rhoi deilen fetel ar arwynebau
  • Cynhyrchu gorffeniadau marmor replica o safon
  • Hongian gorchuddion papur wal arbenigol
  • Cynhyrchu gorffeniadau graenog replica o safon
  • Gosod cilfwâu a mowldinau addurniadol
  • Cotio i gynhyrchu gorffeniadau gweadog
  • Cynhyrchu effeithiau rhaniadliw
  • Cynhyrchu dyluniadau stensil gan ddefnyddio platiau stensil wedi’u torri ymlaen llaw
  • Cynnyrchu effeithiau graenog syth
  • Cynhyrchu effeithiau marmori

Sgiliau hanfodol:

  • Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth


* Nid oes rhaid cwblhau’r rhain os yw’r myfyriwr eisoes wedi ennill cymhwyster Lefel 2.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r cymhwyster i chi symud ymlaen i hunan-gyflogaeth neu gyflogaeth gyda chwmni neu gontractwr.

Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio’r Diploma ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori. Mae hyn yn cynnwys profion ymarferol a dewis lluosog. Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau gan dystion ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr. Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni. Bydd yn cymryd 12 - 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.