Skip to main content

NVQ Prentisiaeth Sylfaen Gorffennu Addurniadol a Pheintio Diwydiannol

Prentisiaeth
Lefel 2
Diploma
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn cwmpasu amrywiaeth o dechnegau peintio ac addurno, gan ychwanegu at eich gwybodaeth o’r grefft. Byddwch yn ennill arbenigedd i weithio’n annibynnol, gan gynnwys gafael gadarn ar effeithiau addurniadol uwch, megis graenio a marmori.

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gwybodaeth allweddol

Cyfuniad o raddio pasio ar lefel TGAU, profiad gwaith blaenorol yn y diwydiant, cyflawniad ar gwrs dilyniant perthnasol a chanlyniadau asesiad ar-lein – byddwn yn trafod hyn yn y cyfweliad. Byddai gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.

Unedau gorfodol:

  • Cydymffurfio â diogelwch cyffredinol yn y gweithle
  • Cydymffurfio ag arferion gweithio effeithlon yn y gweithle
  • Symud a thrin adnoddau yn y gweithle
  • Gosod a datgymalu offer mynediad/llwyfannau gweithio yn y gweithle
  • Paratoi arwynebau ar gyfer peintio/addurno yn y gweithle
  • Taenu systemau paent gan ddefnyddio brws a rholer yn y gweithle

Unedau dewisol

  • Hongian gorchuddion papur wal safonol yn y gweithle
  • Hongian finylau lled eang yn y gweithle
  • Gosod cilfwâu, darnau canol a chynhyrchion gwead yn y gweithle
  • Cotio gan ddefnydio’r dull chwistrellu aer yn y gweithle
  • Cynhyrchu gwaith rhaniadliw a stensilio sylfaenol yn y gweithle
  • Cynhyrchu a defnyddio dyluniadau stensil cymhleth yn y y gweithle

Sgiliau hanfodol:

  • Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Cyfathrebu Lefel 1
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth

Gallech symud ymlaen i’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gorffennu Addurniadol, Peintio ac Addurno. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau i chi symud ymlaen i hunangyflogaeth neu gyflogaeth gyda chwmni neu gontractwr.

Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio Diploma L2 ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori.

Mae hyn yn cynnwys profion ymarferol a dewis lluosog. Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau gan dystion ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr.

Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni.