Skip to main content

Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Nod y cwrs hwn yw gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a siarad yn yr iaith Gymraeg. Byddwch yn mireinio eich gramadeg trwy adolygu amserau a threigladau, ymarfer eich medrau dadansoddi trwy astudio barddoniaeth a dramâu a meithrin eich ysgrifennu creadigol trwy gwblhau eich prosiect gwaith cwrs personol. Byddwch yn archwilio hanes a diwylliant yr iaith Gymraeg trwy’r modiwl Cymraeg mewn cymdeithas, ac yn astudio straeon byrion a fydd yn tanio trafodaethau diddorol. 

Mae’r flwyddyn gyntaf/UG yn canolbwyntio ar y ffilm, ‘Patagonia’, pum cerdd osod, gramadeg a phrosiect gwaith cwrs. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio’r ddrama, ‘Crash’, pedair stori fer, gramadeg, Cymraeg mewn cymdeithas, ymateb i erthygl a’r cyfryngau Cymraeg. 

Byddwch yn cael eich annog i ymdrwytho yn yr iaith drwy wylio S4C, cylchgronau Cymraeg, ffilmiau, apiau, cerddoriaeth a theatr. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
  • Gradd C neu uwch mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith. Cwrs llawn yn unig. Ni dderbynnir TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Argymhellir y cwrs i fyfyrwyr sydd am ymarfer a gwella eu sgiliau Cymraeg ac ymdrwytho yn yr iaith.  

Mae’r cwrs yn cynnig profiad dysgu difyr sy’n cyfuno hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth â gweithgareddau rhyngweithiol. Trwy ddarlithoedd, trafodaethau grŵp, ac ymchwil annibynnol byddwch yn datblygu angerdd a dealltwriaeth o’r iaith a’i hanes. 

Darperir y cyrsiau a’r adnoddau yn ddwyieithog gyda phwyslais ar y Gymraeg. Mae naw awr o ddarlithoedd yr wythnos wedi’u rhannu ar draws pedair sesiwn. Rhoddir aseiniadau gwaith cartref ac asesiadau drwy gydol y flwyddyn i werthuso eich cynnydd a’ch dealltwriaeth o’r pwnc, gan gynnwys aseiniadau traethawd, llafar, hen bapurau ac arholiadau. 
 

Asesiadau: 

Blwyddyn 1 (40%) 

  • Uned 1 : Trafodaeth grŵp am y ffilm ‘Patagonia’ wedi’i dilyn gan drafodaeth am eich gwaith cwrs
  • Uned 2 : Prosiect gwaith cwrs ysgrifenedig
  • Uned 3 : Gramadeg a barddoniaeth (arholiad ysgrifenedig). 

Blwyddyn 2 (60%) 

  • Uned 4 : Trafodaethau grŵp am y cyfryngau Cymraeg a’r ddrama ‘Crash’ wedi’i dilyn gan elfen synoptig lle cewch gyfle i drafod themâu allweddol o bob rhan o’r cwrs
  • Uned 5 : Cymraeg mewn cymdeithas ac ymateb i erthygl (arholiad ysgrifenedig)  
  • Uned 6 : Gramadeg a straeon byrion (arholiad ysgrifenedig). 

Bydd cwblhau Cymraeg ail iaith yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich ymdrechion academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol. Mae’r cwrs yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant gan gynnwys addysg uwch yn y Gymraeg a chyrsiau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu trwy gydol y cwrs hwn yn hynod ddymunol a throsglwyddadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y cyfryngau, addysg a swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru lle mae sgiliau Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi ac mae galw mawr amdanynt.