Skip to main content

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur Lefel 2 - Prentisiaeth

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 2
C&G
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad penodol y cwrs dwy flynedd hwn yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i ddarpar dechnegwyr cerbydau o’r systemau trydanol a mecanyddol a ddefnyddir mewn cerbydau modur.  
 
Drwy gydol y cwrs, cewch gyfle i ennill gwybodaeth werthfawr a datblygu sgiliau hanfodol cysylltiedig â gweithredu cerbydau, cynnal a chadw systemau, diagnosteg, ac atgyweirio.   

Modiwalu  

  • Iechyd, diogelwch a chynnal a chadw tŷ da yn y diwydiant modurol 
  • Cymorth ar gyfer rolau swydd yn yr amgylchedd gwaith modurol 
  • Defnyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn y diwydiant modurol 
  • Cyflwyniad i dechnoleg cerbydau a dulliau a phrosesau gweithdy 
  • Cynnal gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar gerbydau modur 
  • Unedau a chydrannau systemau iro ac oeri peiriannau cerbydau ysgafn 
  • Unedau a chydrannau systemau tanwydd, tanio, aer ac egsóst cerbydau ysgafn 
  • Tynnu a disodli unedau a chydrannau trydanol cerbydau ysgafn 
  • Tynnu a disodli unedau a chydrannau siasi cerbydau ysgafn 
  • Gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar gerbydau ysgafn 
  • Unedau a chydrannau trawsyriant a llinell yriant cerbydau ysgafn.

Gwybodaeth allweddol

  • Cymwysterau TGAU priodol, gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith 
  • Cyfweliad.

Mae’r cyfuniad hwn o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant yn y gweithle yn rhoi modd i chi ddatblygu sylfaen ddamcaniaethol gref wrth ennill profiad ymarferol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol. Mae’n sicrhau eich bod yn cael addysg gyflawn a’ch bod yn barod ar gyfer galwadau gyrfa mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur. 

Mae’r offer canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs: 

  • Cyfarpar diogelwch personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig 
  • Deunydd ysgrifennu amrywiol 
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.