Skip to main content

Canlyniadau Safon Uwch / UG 2017 Coleg Gŵyr Abertawe

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o fwy na 97%, gyda 1,655 o geisiadau arholiad ar wahân.

O'r rhain, roedd 82% yn raddau uwch A*-C, roedd 56% yn raddau A*- B ac roedd 27% yn raddau A*-A – mae’r canrannau mawr hyn yn uwch na’r canlyniadau ardderchog a gafwyd yn 2016.

Roedd y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG yn 91%, gyda 65% yn raddau A-C a 44% yn raddau A neu B - eto, mae'r holl ganrannau mawr hyn yn uwch na chanlyniadau 2016.

Roedd 3,312 o geisiadau arholiad ar wahân ar gyfer Safon UG.

“Dw i wrth fy modd gyda’n canlyniadau arholiadau eleni,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Dw i’n arbennig o falch bod mwy o fyfyrwyr yn ennill y graddau gorau sef A*- C. Yn achos Safon Uwch, roedd 75 o fyfyrwyr wedi ennill graddau A*-A yn gyffredinol, ac yn achos Safon UG, y ffigwr oedd 153.”

“Yn seiliedig ar y canlyniadau hynny, rydyn ni’n rhagweld y bydd chwech o’n myfyrwyr yn dechrau mewn coleg Rhydgrawnt ym mis Medi a bydd dros 200 yn mynd i brifysgolion Russell Group ar draws y Deyrnas Unedig.”

“Llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i gynhyrchu'r canlyniadau arholiadau hyn. Mae'n rhaid i mi hefyd gydnabod ein staff addysgu gwych sydd wedi cefnogi'r dysgwyr hyn drwy gydol y flwyddyn. Dw i’n dymuno’r gorau i'n holl fyfyrwyr graddio wrth iddynt symud ymlaen i gyfnod nesaf eu haddysg neu ymuno â byd gwaith.”

Ymysg y myfyrwyr a ddaeth i gael eu canlyniadau roedd:

Y tripledi Bethan, Eira a Sian James (o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) a enillodd y graddau i fynd i Exeter i astudio Meddygaeth, Exeter i astudio Daeareg a Chaerdydd i astudio Addysg Gynradd.

Ffion Price (o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed) a gafodd A mewn Hanes, A mewn Llenyddiaeth Saesneg ac A mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ac sydd ar ei ffordd i Goleg Prifysgol Rhydychen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth.

Hussnia Metezai (o Ysgol Gyfun yr Esgob Gore) a gafodd A mewn Mathemateg, A mewn Cemeg ac A mewn Llenyddiaeth Saesneg ac sy'n mynd i Gaerdydd i astudio Fferylliaeth.

Nia Griffiths (o Ysgol Gyfun Pontarddulais) a gafodd A* mewn Seicoleg, A mewn Cymraeg ac A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ac sy'n mynd i Goleg Gonville and Caius, Caergrawnt i astudio Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg

Elisabeth Thomas (o Ysgol Gyfun Gŵyr) a gafodd A* mewn Mathemateg, A* mewn Celf a Dylunio (Tecstilau) ac A mewn Ffrangeg ac sy'n mynd i Gaerfaddon i astudio Pensaernïaeth.