Newyddion a Digwyddiadau

08
Ion

Blwyddyn newydd, chi newydd? Cyrsiau rhan-amser yn dechrau ym mis Ionawr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Wrth i ni groesawu’r Flwyddyn Newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn eich gwahodd i wella’ch sgiliau gyda’u cyrsiau rhan-amser.  P’un a ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gwrs rhan-amser i chi. Ac mae rhai ohonynt yn rhad ac am ddim. 
22
Rhag
Walrus Dip 2023

Sblasio ar gyfer elusen

Mae grŵp o fyfyrwyr a staff eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC). Maen nhw eisoes wedi codi dros £800!  Mae PAGC yn cefnogi Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Cenia, gan helpu i leihau meintiau dosbarthiadau a gwella’r ddarpariaeth addysg i gannoedd o ddisgyblion.   
22
Rhag

Y Coleg yn dathlu llwyddiant carfan ILM Cyngor Abertawe

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau tîm Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe.  Dechreuodd tîm Jeremy Davies eu cwrs Dyfarniad ILM Lefel 3 ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl, a gyda chymorth ac arweiniad tiwtoriaid y Coleg Adele Morgan a Susan Washer, graddiodd y tîm yn llwyddiannus mewn digwyddiad dathlu bach yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. 
21
Rhag
Dyn yn annerch grŵp o fyfyrwyr

Disgyblion Abertawe'n mwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Fe wnaeth dros 850 o fyfyrwyr o bum ysgol yn Abertawe fwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 19 Rhagfyr. Cynigiodd y digwyddiad gwych hwn brofiad uniongyrchol o gyrsiau’r Coleg trwy sesiynau blasu pynciau Safon Uwch a galwedigaethol.
19
Rhag
Four ALPS members standing in front of pink Gower College Swansea pull-up banners and the ALPS logo on screen with text saying "Croeso! Welcome!"

Cyrraedd y Brig: Rhannu arferion gorau ar gyfer addysg oedolion yn Abertawe

Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gwrdd ar Gampws Llwyn y Bryn Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer digwyddiad rhannu arferion gorau.  Mae ALPS, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dod â sefydliadau blaenllaw ynghyd ym maes addysg oedolion, sy’n ceisio darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel i ateb anghenion a dyheadau’r gymuned. 
18
Rhag

Dewch i Luosi eich Sgiliau ar gyfer Bywyd Pob Dydd!

Mae Prosiect Lluosi gan Goleg Gŵyr Abertawe yma i dy helpu di fagu hyder mewn sgiliau rhifedd; y sgiliau hynny sy’n angenrheidiol mewn bywyd bob dydd. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau am ddim, dim ots ble’r wyt ti ar dy daith!
14
Rhag
Myfyriwr yn edrych ar graig trwy ficrosgop

Myfyriwr Safon Uwch Daeareg yn graig o wybodaeth

Diddordeb brwd mewn bioleg ac anifeiliaid yw’r hyn sydd wedi rhoi Micah Mainwaring, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, ar y llwybr gyrfa i fod yn balaeontolegydd. Mae Micah ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn bioleg, daeareg, mathemateg a drama ar Gampws Gorseinon.
12
Rhag
Coleg Gwyr Abertawe Logo

Adran Sgiliau Byw’n Annibynnol: dosbarthiadau wedi’u canslo

Oherwydd nifer yr achosion Covid yn yr adran SBA sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr, mae’r Coleg wedi gwneud penderfyniad anodd a chanslo dosbarthiadau am weddill yr wythnos hon (dydd Mercher 13 – dydd Gwener 15 Rhagfyr). Rydym yn deall bod hyn yn fyr rybudd, ond rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i atal unrhyw drosglwyddo pellach.
12
Rhag
Dyn mewn siwmper yn siarad â myfyrwyr

Myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn cwrdd â’r Prif Weinidog

Fe wnaeth myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe groesawu ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Daeth tua 60 o fyfyrwyr, y mwyafrif helaeth ohonynt yn astudio ar y cwrs Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, ynghyd ar Gampws Gorseinon i glywed y Prif Weinidog yn rhoi anerchiad hynod ddiddorol am ei fywyd mewn gwleidyddiaeth.
11
Rhag
poster

Chwilio am dalentau canu!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi talentau ifanc trwy noddi cystadleuaeth Canwr Ifanc Dyfnant 2024. Ymhlith cyn-enillwyr y gystadleuaeth wych hon mae’r actores a’r gantores Connie Fisher, perfformwariag y West End Hayley Gallivan, a’r actor Ben Joyce, sydd ar hyn o bryd yn serennu fel Marty McFly yn Back to the Future yn Theatr Adelphi, Llundain.

Tudalennau

Subscribe to Gower College Swansea Feed