Barod am Waith

Bwriad y rhaglen yw rhoi sylw i unrhyw rwystrau dysgu sydd efallai yn eich atal rhag ymrwymo i waith amser llawn, hyfforddiant neu addysg.
Beth yw’r manteision?

• Cynyddu’ch cymhelliad a magu hyder
• Cael profiad yn yr alwedigaeth o’ch dewis
• Ennill cymwysterau Lefel 1 neu 2
• Datblygu’ch sgiliau hanfodol (cyfathrebu, cymhwyso rhif, TGCh, gweithio gydag eraill, gwella dysgu a datrys problemau)
• Premiwm hyfforddi
• Cymorth gofal plant ar gyfer rhieni unigol
• Gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi
• Cymhorthdal teithio

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol (gall y rhain newid):

• Tystysgrif mewn Trin Gwallt a Barbro
• NVQ Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
• NVQ Tystysgrif mewn Gweinyddu Busnes
• Dyfarniad mewn Warysau a Storio
• NVQ Tystysgrif a Diploma mewn Gwasanaethau Lletygarwch
• NVQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol
• NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
• NVQ Plymwaith
• Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Dyfarniad mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh i Brentisiaid
• Tystysgrif i Ddefnyddwyr TG

Sylwch fod rhaid i bob dysgwr gael ei gyfeirio gan y Ganolfan Waith (cysylltwch â’ch cynghorydd).